Hafan

Siop Gymunedol a Swyddfa Bost Dryslwyn

Ein Siop Gymunedol

Yn 2008 caeodd Swyddfa'r Post Cyf 2,500 o swyddfeydd post, a threfnwyd i Dryslwyn fod yn un ohonynt. Roedd cael gwared ar gyflog y postfeistr yn golygu bod yn rhaid i'r siop gau hefyd gan y byddai'n anghynaliadwy yn ariannol. Ffurfiwyd grŵp gweithredu gennym i geisio atal hyn rhag digwydd, ac fe ymdrechwyd ymdrech deg gennym, ond fe gollon ni! Yn y ‘te angladd’ a gynhaliwyd i ddiolch i'r grŵp gweithredu, awgrymwyd pe bai modd dod o hyd i ddigon o wirfoddolwyr, efallai y gallai'r siop aros ar agor. Mewn cyfarfod cyhoeddus yn yr Ystafell Ddarllen, penderfynodd y gymuned fwrw ymlaen a gwneud ymdrech i gadw'r siop ar agor. Felly dyma ni heddiw, menter lewyrchus a llwyddiannus.

Y Prosiect

Mae ein Prosiect i adleoli'r Siop Gymunedol i'n hadeilad newydd ein hunain ar waith! Cawsom gynnig hael o lain o dir, a chyda'n penseiri y cam cyntaf yw cynnal astudiaeth ddichonoldeb a dylunio mewn ymgynghoriad â'r gymuned. Mae gennym Dîm Prosiect gwych sy'n cynnwys gwirfoddolwyr o bob rhan o'r gymuned, ac ar Ddydd Gŵyl Dewi 2021 byddwn yn lansio ein hymgynghoriad!

Rydym wedi bod yn siarad yn anffurfiol ag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys cynllunwyr Sir Gaerfyrddin, gwleidyddion, a llu o gyllidwyr posib i ddechrau codi ymwybyddiaeth ac anelu at osgoi problemau yn y dyfodol.

Oherwydd Covid mae angen i ni wneud llawer o bethau yn rhithiol. Ond mae hyn yn rhoi cyfle inni wthio ffiniau go iawn er mwyn dod â phobl ynghyd ar-lein. Mae ein cyfryngau cymdeithasol a'r wefan ficro hon yn dechrau byrlymu gan wybodaeth a bydd ein lansiad yn digwydd ar-lein. Yn ogystal â hyn mae’r tîm yn dechrau defnyddio pob math o offer prosiect eraill o ddifrif hefyd – gan gynnwys ‘map meddwl’ rhithiol ar gyfer syniadau dylunio a byrddau tasgau’r prosiect er mwyn i ni wybod pwy sy’n gwneud beth. Mae llawer i'w wneud.

Y Weledigaeth

Ein gweledigaeth yw y bydd Siop a Swyddfa Bost Gymunedol Dryslwyn yn gyfleuster nid-er-elw llwyddiannus o dan arweiniad gwirfoddolwyr, cyfleuster y byddwn ni i gyd yn ei werthfawrogi ac yn falch ohono.  Rhywle sy’n groesawgar, yn fywiog ac yn gaffaeliad cymunedol hanfodol, a gaiff ei gefnogi a’i ddefnyddio gan bawb ar draws y gymuned leol a thu hwnt, rhywle a gaiff effaith fach yn amgylcheddol ond effaith fawr yn gymdeithasol – a fydd o gymorth i’r gymuned fynd i’r afael â’r heriau cychwynnol a rhai’r dyfodol – beth bynnag fo’r rheini.


Cefnogaeth hael gan

Cynghorwyr cyflogedig

Ways of Working

Mae HGA wedi comisiynu Ways of Working, menter yn Abertawe, i arwain ar y broses ymgynghori gymunedol ar gyfer y SiopNEWydd.

Arweinir Ways of Working gan Owen Griffiths, artist a hwylusydd sy'n gweithio gyda chymunedau i wireddu prosiectau ledled y DU ac Ewrop. Mae Ways of Working yn fenter gymdeithasol, wedi'i gwreiddio mewn syniadau lleol, sy'n  helpu cymunedau i feddwl am ffyrdd newydd o wneud, dylunio a gwireddu potensial. Mae'r cwmni'n gweithio ym meysydd systemau bwyd, anghyfiawnder hinsawdd, defnydd tir, addysg, cyfiawnder cymdeithasol, dylunio cymunedol a gofod cyhoeddus. Bydd Owen yn gweithio gyda'i gyd-ymarferydd creadigol, Rhian Jones, i ddatblygu rhaglen ymgynghori gyffrous a chreadigol, rhyngddynt mae ganddynt dros 25 mlynedd o brofiad o ddatblygu prosiectau yn y celfyddydau, yn ogystal â chymunedau ac ymgynghori.

www.waysofworking.org

HGA Architecture

Sefydlwyd HGA gan y Prif Bensaer Huw Griffiths ym 1988. Maen nhw wedi gwireddu ystod helaeth o brosiectau sydd wedi ennill sawl gwobr ledled y DU gan weithio ar adeiladau masnachol ar raddfa fawr a phrosiectau cymunedol i ystod o waith preifat a domestig. Mae gan y cwmni ddiddordeb arbennig mewn gweithio gyda chymunedau gwledig a Chymraeg ac elusennau a phrosiectau addysgol fel y SiopNEWydd ar gyfer pentref Dryslwyn. Yn ddiweddar fe wnaethant gwblhau Adeilad Surf Ability ym Mae Caswell, y Gŵyr fel rhan o DIY SOS / BBC Plant Mewn Angen ac mae ganddynt gyfoeth o brofiad a sgiliau perthnasol o fewn y tîm i'w cynnig i'r fenter gyffrous hon. 

HGA Architects - https://www.hga.wales/

Cydweithredwyr, Partneriaid a Chefnogwyr

Cyllidwyr a grantwyr