Newyddion a Digwyddiadau - Yn yr adran hon fe welwch ddolenni i docynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag erthyglau newyddion perthnasol.
Rydym yn falch o gadarnhau bod ein cais cynllunio am siop newydd wedi’i gyflwyno a’i gofrestru gyda Chyngor Sir Gâr, cyfeirnod PL/04528.
Mae’n ddigon posibl y bydd y broses gynllunio yn cymryd 16 wythnos ond gall pawb ddilyn ei hynt drwy’r ddolen gyswllt hon:-
Os nad ydych chi wedi’i ddefnyddio o’r blaen, efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda Chyngor Sir Gâr er mwyn gweld y cais ar eu porth.
Os byddwch chi’n teimlo awydd i gofrestru e-bost o gefnogaeth gyda Chyngor Sir Gâr, yna gwnewch hynny os gwelwch yn dda, er bod yr adroddiad gan raglen Ways of Working a gynhaliwyd ym mis Mawrth/Ebrill 2021, a gofrestrodd gefnogaeth i’r fenter, yn ffurfio rhan o ddogfennau ategol y cais.
Bydd tîm y prosiect yn parhau i fod yn brysur yn ystod y broses gynllunio yn archwilio agweddau eraill ar y prosiect gan gynnwys cyfleoedd cyllido y bydd y mwyafrif ohonynt yn amodol ar gymeradwyo’r cais cynllunio.
Pan fydd gennym unrhyw wybodaeth neu newyddion arwyddocaol byddwn yn eich hysbysu drwy e-bost, ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae cyrraedd y cam hwn o’r broses wedi golygu mewnbwn sylweddol gan bawb ac mae o reidrwydd wedi bod yn drylwyr. Yr hyn sydd bwysicaf yw sicrhau y cawn ni’r canlyniad rydym ni i gyd yn ei ddymuno ac, os yw hynny yn golygu cymryd ychydig mwy o amser ac os yw’n sicrhau bod ein cais yn llwyddiannus, yna mae’n rhaid bod hynny’n werth chweil!