Cynnwys y Gymuned - yn yr adran hon gwelwch ddolenni i gwestiynau, erthyglau a deunydd a gafodd eu defnyddio yn ystod y sesiynau Ymgysylltu â'r Gymuned wythnosol.
Os na allwch gael mynediad at flwch post neu dudalen Facebook prosiect y Siop, gallwch gael gafael ar gwestiynau ar Thema 'Yr Economi Leol' a rhoi'ch adborth yma Cliciwch yma i gael y cwestiynau
Roedd yr wythnos diwethaf yn Wythnos Gymunedol. Dyma oedd o dan sylw yn ein sesiwn greadigol gyda Ways of Working:
Cawson sgyrsiau gwych am sut mae pobl yn defnyddio’r siop a'r hyn hoffent ei weld yn y siop newydd.
Os na allwch gael mynediad at flwch post neu dudalen Facebook prosiect y Siop, gallwch gael gafael ar gwestiynau ar Thema 'Cynaliadwyedd' a rhoi'ch adborth yma Cliciwch yma i gael y cwestiynau
Dyma stori ysbrydoledig am fecws sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr sydd bellach yn Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol sy'n archwilio hyfforddiant, cyflogaeth a sut i greu peis perffaith!
Ydych chi erioed wedi ystyried sut olwg fydd ar Dryslwyn yn y flwyddyn 2060? Rhoesom gynnig ar yr ymarfer hwn wrth greu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Caiff trigolion lleol eu gwahodd i gyfarfodydd cyhoeddus i drafod a llunio cynlluniau ar gyfer y trefi a'r dinasoedd lle maen nhw'n byw. Maen nhw'n cychwyn drwy drafod materion o safbwynt preswylydd presennol. Wedyn maen nhw'n derbyn gwisgoedd melyn i'w gwisgo ac yn gorfod dychmygu eu hunain fel trigolion o'r flwyddyn 2060.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030 ac i gydlynu camau gweithredu i helpu rhannau eraill o'r economi i symud yn ddi-droi'n-ôl oddi wrth danwydd ffosil. Fis diwethaf, cyhoeddodd adroddiad, Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel, sy'n nodi 100 o bolisïau a chynigion i gyrraedd targedau allyriadau carbon 2020.
Diolch i chi os daethoch i gyfarfod lansio Cyfnod Ymgysylltu â'r Gymuned prosiect y SiopNEWydd.
Diolch i Huw, Owen a Rhian a gyflwynodd gyflwyniadau diddorol tu hwnt. Nawr mae'n amser i chi roi'ch mewnbwn ac annog pobl eraill yn y gymuned i ddweud eu dweud.
GWYLIWCH Y FIDEO -- Wnaethoch chi golli'r sesiwn? Gallwch ei gwylio yma.
Os na allwch gael mynediad at flwch post neu dudalen Facebook prosiect y Siop, gallwch gael gafael ar gwestiynau ar Thema 'Y Gymuned' a rhoi'ch adborth yma - Cliciwch yma i gael y cwestiynau
Daeth mwy na 40 o bobl i'n sesiwn ar-lein i gychwyn ymgysylltu â'r gymuned lle cafodd y gymuned gyfle i gwrdd â'n partenriaid prosiect - HGA Architects a'r ymgynghorwyr ymgysylltu, Ways of Working. Gallwch lawrlwytho'u cyflwyniadau o'r dolenni isod.
Ways of Working - CLICIWCH YMA
Cyflwyniad HGA - CLICIWCH YMA
GWYLIWCH Y FIDEO - Dewch i gwrdd â thîm Ways of Working wrth iddynt roi trosolwg o'u hymarfer a sut maen nhw'n gweithredu Ymgysylltiadau Cymunedol.