Newyddion a Digwyddiadau - Yn yr adran hon fe welwch ddolenni i docynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag erthyglau newyddion perthnasol.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yng nghanolfan gynadledda Coin Street Llundain ar ddydd Mercher 23 Hydref. Noddir gwobr categori Buddsoddi Mewn Pobl Leol gan Anthony Collins Solicitors LLP.
Mae Siop Gymunedol a Swyddfa Bost Dryslwyn wedi bod yn fenter gymunedol fywiog, groesawgar a llwyddiannus ers iddi gael ei hachub rhag cau yn 2008. Wedi'i harwain yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, mae'n ganolbwynt i rym y bobl gan dynnu ar ddoniau a chyfraniadau pawb. Drwy wneud hynny, mae'n mynd ati i ddatblygu sgiliau a doniau newydd a phresennol mewn awyrgylch tîm gyfeillgar a hwyliog. Wedi'i rhedeg gan wirfoddolwyr, gyda chymorth dau aelod o staff rhan amser, gweithiodd yn ddi-baid drwy gydol pandemig Covid. Mae'n cydweithio'n helaeth gyda sefydliadau eraill yn lleol gan gynnwys Menter ac Ysgol Gynradd Cwrt Henri, ac yn genedlaethol. Mae hefyd yn cynnal lleoliadau gwaith â chymorth a phrofiad gwaith myfyrwyr. Yn 2021, enillodd Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol, y gyntaf erioed yn Sir Gâr.
Meddai Simon Fraser, Cyfarwyddwr a gwirfoddolwr ers nifer mawr o flynyddoedd: “Mae fy ngwaith gwirfoddol yn Nryslwyn wedi'i arwain gan yr ymdeimlad cryf sydd gen i o gymuned. Dwi wrth fy modd yn cael y cyfle i gwrdd â phobl a'u helpu nhw. Mae'n bwysig i mi ein bod ni'n cynnig hanfodion pob dydd ac mae hynny'n cynnwys cwmnïaeth, cymorth, cydymdeimlad a chonsyrn. Rydyn ni'n lleoliad i bawb, er lles pawb.”
Gan edrych i ymestyn ei llwyddiant, mae Siop Gymunedol a Swyddfa Bost Dryslwyn bellach yn gyrru cynllun prosiect cyffrous ac uchelgeisiol y SiopNEWydd yn ei flaen. Ei nod yw darparu adeilad newydd lle bydd yn gallu cynnig mwy fyth i'r gymuned. Dywedodd Arweinydd y Prosiect, Nigel Jones: “Mae prosiect y SiopNEWydd wedi dangos cyfoeth o dalent newydd ac wedi dangos i ni gyd
y gall pob un ohonon ni feithrin sgiliau a gwneud ffrindiau newydd drwy weithio gyda'n gilydd. Mae rhannu brwdfrydedd yn helpu unigolion a'r gymuned i ffynnu.”
Noddir categori Buddsoddi Mewn Pobl gan Anthony Collins Solicitors LLP. Cyflwynodd bron 70 o unigolion ledled y DU eu busnes cymunedol a'u pencampwyr lleol ar gyfer yr wyth categori yn y gwobrau eleni.
Dywedodd Gemma Sills, Rheolwr Ymgysylltu Plunkett UK: “Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i weld cynifer o bobl yn enwebu eu busnesau lleol sy'n eiddo i'r gymuned, sy'n wirioneddol bwysleisio'r rôl bwysig maen nhw'n ei chwarae yn eu cymunedau. Rydym yn dathlu'r effaith sylweddol y mae pob un yn ei chael yn ei ardal leol ei hun ac edrychwn ymlaen at seremoni wobrwyo fis nesaf pan gyhoeddir yr enillwyr.”
Mae Plunkett UK yn elusen genedlaethol sy'n cefnogi pobl mewn ardaloedd gwledig i sefydlu a rhedeg amrywiaeth eang o fusnesau dan berchnogaeth gymunedol. Mae'n gwneud hyn i gyflawni ei gweledigaeth ledled y DU ar gyfer cymunedau gwledig gwydn, ffyniannus a chynhwysol.
Mae mwy nag 800 o fusnesau sy'n eiddo i'r gymuned ledled y DU, ac mae pob un eiddo i aelodau'r gymuned ac yn ddemocrataidd. Gallant fod yn unrhyw fath o fusnes, yn amrywio o siopau pentref, tafarndai a chaffis , i goetiroedd, pysgodfeydd a ffermydd.
I gael mwy o wybodaeth am y Gwobrau ewch i https://plunkett.co.uk/rural-community- business-awards/
Rydyn ni’n gwybod y bydd pawb yn awyddus i glywed am y cynnydd o ran gwireddu’n huchelgais ar gyfer ein siop newydd, ac oherwydd ei bod wedi ymddangos yn dawel, mae’n bosibl y bydd rhai yn meddwl nad oes llawer yn cael ei wneud i gyflawni ein nod o adeiladu siop/swyddfa bost/caffi newydd a chyffrous gyda pharcio ar y safle.
Er ei bod yn dawel ar yr wyneb, mewn gwirionedd mae llawer iawn yn digwydd, felly dyma ddiweddariad byr ar ble rydyn ni arni yn ein hymdrechion ar hyn o bryd.
Mae bob amser yn dda dechrau gyda newyddion cadarnhaol felly rwy’n falch o ddweud ein bod ni wedi llwyddo gyda’n cais rownd gyntaf, ‘Mynegi Diddordeb’, ar gyfer grant o £300,00 gan ‘Prosiect Cronfa Gymunedol’ (PCG) Llywodraeth Cymru. Er bod hyn yn newyddion gwych ac yn galonogol iawn, mae’n golygu bod angen i ni fod yn llwyddiannus ar gam mwy heriol Rownd Dau hefyd. Ar gyfer hwn mae angen cyflwyno llawer mwy o wybodaeth a manylion cymhleth o fewn terfyn amser caeth (canol Chwefror). Caiff hwnnw ei ailasesu wedyn a rhaid iddo fodloni’r safonau gofynnol. FELLY…rydyn ni’n nesáu at y nod ond nid yw’n gwbl sicr eto.
Yn y cyfamser, rydyn ni’n paratoi ein cais mawr nesaf a fydd yn cyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb i’r Loteri Genedlaethol (LG). Mae hon hefyd yn broses dau gam, felly bydd yr un egwyddorion yn berthnasol, gyda rhwystrau olynol i’w goresgyn. Hyd yn oed ar ôl cyflwyno, nodwch os gwelwch yn dda fod proses y cyllidwr o asesu’r ceisiadau hyn yn cymryd amser!
Ochr yn ochr â hyn rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ein Cynllun Busnes ar gyfer y siop newydd gyda Lansker, ein hymgynghorwyr, gwaith a ariannwyd gan ein Grant Perthyn llwyddiannus yn ôl yn yr haf. Mae hwn yn ddarn mawr o waith a fydd yn sail i’n ceisiadau ail gam i PCG a’r LG y soniwyd amdanynt uchod.
Ac yn barod mae gennym gynllun am geisiadau eraill llai o faint y byddwn ni’n eu gwneud unwaith y caiff y rhai mawr hyn eu symud yn eu blaenau ymhellach.
Rwy’n gobeithio y byddwch chi’n gweld y diweddariad hwn yn ddiddorol a gobeithio y bydd yn cynnig rhywfaint o dawelwch meddwl. Mae cryn dipyn o waith wedi’i wneud eisoes, ac angen ei wneud o hyd, cyn inni allu cael peiriannau ar y tir a gosod y slabyn cyntaf! Rydyn ni’n credu bod gennym ni stori wych i’w hadrodd a dyfodol i’w gynllunio a ddylai daro tant gyda’r cyllidwyr grantiau! Amser a ddengys wrth gwrs!
Byddwn ni’n parhau i roi’r newyddion diweddaraf i chi wrth i bethau fynd rhagddynt, ond yn y cyfamser a gaf i achub ar y cyfle hwn, ar ran tîm y prosiect, i ddymuno cyfarchion y tymor i chi ac i’r rheini sy’n agos ac yn annwyl i chi.