Newyddion a Digwyddiadau - Yn yr adran hon fe welwch ddolenni i docynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag erthyglau newyddion perthnasol.
Bellach mae gennym fodel rhyngweithiol gwych o'r dyluniadau arfaethedig ar gyfer y SiopNEWydd. Beth am alw heibio i gael golwg, rhoi cynnig ar y gwahanol ddyluniadau ar gyfer y to, a chael cipolwg o'r tu mewn i weld cynllun llawr posibl eich siop newydd....
Ac wrth gwrs rydym am glywed eich holl sylwadau - peidiwch â dal yn ôl .
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adborth ar y dyluniad yw 2 Ionawr.
Gellir cael gafael ar ffurflenni adborth ar ein gwefan drwy glicio yma, neu yn y siop ei hun.
Gorau po fwyaf o sylwadau a dderbynnir, felly da chi peidiwch â dal yn ôl, cofiwch “ddweud eich dweud” cyn ei bod yn rhy hwyr!
Gobeithio eich bod chi gyd wedi mwynhau Nadolig teuluol hapus.
NEWYDDION CYFFROUS
Bellach mae gennym fodel o’r safle siop newydd arfaethedig a chynlun yr adeilad. Felly galwch heibio yr wythnos hon, i gael argraff arall a gwahanol o'r dyluniadau a sut maen nhw'n cymharu. Gallai hyn eich helpu i ffurfio eich adborth.
Hefyd rwyf am eich atgoffa chi mai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adborth ar y dyluniad yw 2 Ionawr.
Felly, os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynghylch gwella neu newid lluniadau’r dyluniad a gyflwynwyd, nawr yw’r amser i wneud hynny.
Gallwch gael gafael ar ffurflenni adborth o’n gwefan (https://www.siopnewydd.com/hafan/cynllun-yr-adeilad) neu o’r siop.
Gorau po fwyaf o sylwadau a dderbynnir, felly da chi peidiwch â dal yn ôl, lleisiwch eich barn cyn ei bod yn rhy hwyr!
Rhwng dydd Llun 13 Rhagfyr a dydd Sul 2 Ionawr, rydym yn gwahodd y gymuned i roi adborth am gynlluniau a lluniadau’r dyluniad a’r cynllun a baratowyd ar ein cyfer gan y penseiri, Huw Griffiths Architects (HGA) o Abertawe.
Mae ffurflenni adborth wedi’u paratoi a byddant ar gael, gyda’r cynlluniau a’r lluniadau sydd i’w harchwilio, mewn tri lleoliad/cyfrwng, sef:
1. O ddydd Llun 13 Rhagfyr, bydd lluniadau ar gael mewn ffolderi yn y babell y tu allan i’r siop, gyda ffurflenni adborth naill ai i’w cymryd oddi yno a’u dychwelyd neu i’w cwblhau ar y safle.
2. Ar lein ar wefan prosiect y SiopNEWydd, gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol: https://www.siopnewydd.com/home/building-design. Gellir gweld y cynlluniau a chyflwyno ffurflenni adborth ar-lein ar y wefan hon neu gellir eu hargraffu a’u gadael yn y siop.
3. Bydd Rosie Plummer a minnau, fel Arweinydd a Chadeirydd y Prosiect, yn cynnal digwyddiad sy’n cydymffurfio â rheolau Covid yn Ystafell Ddarllen Cwrt Henri ddydd Gwener nesaf, 17 Rhagfyr, rhwng 2 a 4pm. Noder os gwelwch yn dda, y byddwn yn cyfyngu ar y nifer a fydd yn medru cael mynediad ar unrhyw un adeg. Er mwyn diogelu pawb, disgwylir i bob un sy’n mynychu’r digwyddiad wisgo masg yn yr Ystafell Ddarllen ac, i gael mynediad, bydd angen dangos pàs Covid dilys neu ganlyniad negyddol i brawf llif unffordd a wnaed o fewn 48 awr i’r digwyddiad. Caiff y cynlluniau eu harddangos a byddwn ni’n dau yn ateb ymholiadau. Bydd ffurflenni ar gael i’w cwblhau yno neu i’w cymryd oddi yno a’u dychwelyd i’r siop. Gofynnir hefyd i’r rhai sy’n mynychu ddarparu eu manylion cyswllt at ddibenion profi ac olrhain yn unig.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y cyfnod hwn ar gyfer cyflwyno adborth, sylwadau a beirniadaeth adeiladol. Cyflwynir cais cynllunio ffurfiol yn gynnar yn 2022 ar sail yr adborth hwn, felly peidiwch â bod yn swil, gadewch inni glywed yr hyn rydych chi’n ei feddwl go iawn, boed hynny’n ganmoliaeth neu’n feirniadaeth o’r hyn a gyflwynir.
Noder os gwelwch yn dda mai’r dyddiad cau ar gyfer derbyn eich adborth yw 2 Ionawr 2022.
Diolch o flaen llaw am roi o’ch amser i ystyried hyn a hoffwn ar ran cyfarwyddwyr y siop a thîm y prosiect ddymuno Nadolig a Blwyddyn Newydd hapus, iach, diogel a phleserus iawn i chi a’ch teuluoedd.