Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau - Yn yr adran hon fe welwch ddolenni i docynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag erthyglau newyddion perthnasol.

CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL SIOP GYMUNEDOL DRYSLWYN – Nodiadau ar Brosiect y SiopNEWydd - 26.11.2023

Ymddiheurodd Rosie Plummer ar ran Nigel Jones, Cadeirydd Tîm y Prosiect, a chyflwynodd drosolwg a diweddariad ar gynnydd Prosiect y SiopNEWydd hyd yn hyn.  Cyn gwneud hynny, tynnodd sylw at y gwaith o adnewyddu’r Ystafell Ddarllen (lle roedd y cyfarfod yn cael ei gynnal) fel enghraifft o lwyddiant y gymuned wrth gwblhau cynlluniau cyllid grant, gan nodi bod hynny wedi costio oddeutu £220,000 tua 15 mlynedd yn ôl.

 

Atgoffodd y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod fod y Cyfarwyddwyr wedi cytuno i fuddsoddi cyllid sbarduno gwerth £25k mewn astudiaeth o ddichonoldeb adeilad newydd. Ar y dechrau, cawsant eu cynghori y byddai prosiect uchelgeisiol aml-gam o’r fath yn cymryd 3-5 mlynedd ac yn costio tua £500,000, er ei fod yn anodd deall hynny. Fodd bynnag, penderfynodd y Cyfarwyddwyr fwrw ymlaen, gan gydnabod y byddai llwyddiant yn dod â buddion sylweddol i’r gymuned yn y dyfodol. Felly cychwynnwyd y prosiect yn 2020.

 

Sefydlwyd Tîm y Prosiect, lluniwyd manyleb ar gyfer y prosiect ymgynghori â’r gymuned, a chynhaliwyd tendro cystadleuol agored ar gyfer gwasanaethau pensaernïol i arwain y gwaith dylunio. Roedd y rhain yn ofynion hanfodol i sicrhau gobeithion am arian grant maes o law.

 

Yna tarodd Covid ond, heb ddigalonni, aeth y gymuned yn feirol trwy Zoom (y tro cyntaf i lawer) ac yna symud yn ofalus at gadw pellter cymdeithasol wrth fwrw ymlaen â’r broses o ymgynhori â’r gymuned a’r gwaith dylunio. Mae’r adroddiad llawn ar ein hymgynhoriad dwyieithog cyhoeddus - sy’n cynnwys ein haelodau, ein cwsmeriaid a’n gwirfoddolwyr yn ogystal â’n parnteriaid, Aelodau o’r Senedd a llawer o gefnogwyr ehangach – ar ein gwefan fel rhan o’r cofnod o’n prosiect.

 

Yn ystod y cam dylunio cyntaf hwnnw, ymgymerodd y tîm a’r pensaer ag amrywiaeth o waith proffesiynol ac arolygon angenrheidiol. Roedd hyn yn cynnwys topograffi manwl y safle, hydroleg a mapio llifogydd, peirianneg pridd ac addasrwydd strwythurol, asesiad tir halogedig, arolwg ecolegol, ymgynghoriad priffyrdd, a dylunio system ddraenio gynaliadwy.  Roedd hyn yn asesu ac yn datblygu’r opsiynau dylunio – siâp a natur yr adeilad, (gan gynnwys cyfleuster caffi y gofynnodd y gymuned amdano a gynyddodd yr uchelgais ymhlellach), cynllun y safle a pharcio, cynllun plannu a llif traffig. Wedi cynnwys y gymuned ymhellach, cwblhawyd ein cynllun dylunio, gan alluogi amcangyfrifon costau syrfewyr meintiau a chyflwyno cais am ganiatâd cynllunio.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio PL/04528 ym Mawrth 2023 (mae manylion ar borth cynllunio Cyngor Sir Gâr). Yn y cyfamser, gan edrych tuag at gamau nesaf y prosiect, cymeradwyodd y Cyfarwyddwyr Strategaeth Codi Arian hefyd.

 

Fodd bynnag, eglurodd Rosie mai un elfen yn unig yw sicrhau caniatâd cynllunio, er y cynnydd rhagorol. Mae gofynion eraill yn cynnwys cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu, trwyddedu amgylcheddol, ac ystyriaethau gosod cyfleustodau, sydd i gyd yn cael eu datblygu.  Bydd angen manyleb adeiladu fanwl a phroses caffael cyhoeddus ar gyfer contractwr adeiladu maes o law hefyd.

 

Yn allweddol, ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae Tîm y Prosiect wedi cysylltu â nifer o gyllidwyr posibl a chyrff talu grantiau. Fe wnaethom ni lwyddo sicrhau grant bach Perthyn (£13,400) gan ein galluogi i ariannu adolygiad llywodraethu annibynnol a sicrhau ymgynghoriaeth i ddatblygu ein cynllun busnes ‘pontio i’r siop newydd’. Mae’r rhain ac elfennau allweddol eraill yn hanfodol ar gyfer ceisiadau cyllido mawr.  Tynnodd Rosie sylw at effaith ddifrifol amgylchiadau’r byd ar gostau: Covid, ac yna Wcráin, y sefyllfa ariannol gyffredinol a nawr goblygiadau’r Dwyrain Canol yn ogystal ag argyfyngau hinsawdd a natur. O ganlyniad, mae amcangyfrifon cyffredinol o’r costau, gan gynnwys TAW, oddeutu £1M.  Tynnodd sylw at y ffaith bod rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys swyddogion a chynghorwyr Cyngor Sir Gâr yn ogystal â rhai o’r prif gyllidwyr, wedi dangos brwdfrydedd ac anogaeth sylweddol, er ei fod yn hynod anodd.

 

Esboniodd Rosie mai gwneud ceisiadau am gyllid yw’r prif ffocws ar hyn o bryd. Yn gyffredinol, mae gan gyllidwyr mawr brosesau dau gam ac mae angen dogfennaeth helaeth.  Maen nhw hefyd yn benodol iawn ynghylch meini prawf cymhwysedd a’r hyn y byddant yn ei gyllido, gallant gymryd sawl mis i wneud penderfyniad, ac mae ganddynt delerau ac amodau tynn, gan gynnwys terfyn amser ar gyfer gwario’r arian.  Er enghraifft, mae cais cam cyntaf a wnaed yn ddiweddar yn 39 tudalen o hyd, ac mae’r ail gam yn gofyn am hyd yn oed mwy, a phan gaiff ei ddyfarnu bydd yn mynnu olrhain ac adrodd am bob ceiniog. Felly mae gwneud ceisiadau am gyllid ac yna eu rheoli yn ddewiniaeth ddu, yn glytwaith, ac nid yw i’r gwangalon!

 

Diolchodd i Nigel fel Cadeirydd, i aelodau o Dîm y Proseict, ac i’r Cyfarwyddwyr am eu cefnogaeth a’u hanogaeth hyd yn hyn. Cadarnhaodd fod ein cais mawr cyntaf (am £300,000) wedi’i gyflwyno, a bod cais sylweddol i gyllidwr arall bellach yn cael ei baratoi. Felly, gofynnwyd i bawb groesi bysedd gan y dylai 2024 ddangos sut rydym ni’n symud ymlaen i sicrhau cyllid ar gyfer gwireddu’r uchelgais i sefydlu’r SiopNEWydd.