Newyddion a Digwyddiadau

DIWEDDARAF

Newyddion a Digwyddiadau - Yn yr adran hon fe welwch ddolenni i docynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag erthyglau newyddion perthnasol.

Prosiect y SiopNEWydd:  ADRODDIAD AR YMGYSYLLTU Ȃ’R GYMUNED - 07.06.2021

Yn ystod mis Mawrth fe gysyllton ni â chi ynglŷn â’n digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned, a oedd drwy Zoom yn bennaf, dan arweinaid Owen a Rhian, Ways of Working.


Mae Owen a Rhian bellach wedi cynhyrchu eu hadroddiad sy’n cael ei ddefnyddio gan ein penseiri, Huw Griffiths yn Abertawe, i ddylunio ein siop a’n swyddfa bost newydd.


Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau i’w gwneud, anfonwch nhw ataf i drwy’r cyfeiriad ebost yma os gwelwch chi’n dda, er mwyn i mi eu trosglwyddo nhw i’r penseiri.


Diolch am eich cefnogaeth a’ch diddordeb parhaus yn y prosiect hwn sydd bellach yn elwa o’r llwyddiant ysgubol a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos hon. Mae’r siop wedi ennill gwobr fawreddog gan y Frenhines, sef Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwrirfoddol.  Hyd y gwyddon ni, dyma’r tro cyntaf i’r wobr gael ei rhoi i grŵp yn Sir Gâr ac mae’n dyst i gymaint o waith caled gan gynifer o wirfoddolwyr dros y blynyddoedd. Pa ffordd well o anrhydeddu’r orchest hon na llwyddo gyda’n prosiect ni a darparu cyfleuster newydd i wasanaethu’r gymuned am flynyddoedd i ddod. 

Newyddion - Prynhawn Da S4C - 03.06.2021

Gwyliwch y Cadeirydd, Nigel Jones, ar raglen Prynhawn Da S4C yn trafod Prosiect y SiopNewydd a'r anrhydedd o ennill Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol


GWYLIWCH YMA

Newyddion - In Your Area - 03.06.2021

The Dryslwyn Community Shop and Post Office in Carmarthenshire has been awarded the Queen’s Award for Voluntary Service.  The award is described as the MBE of Voluntary Service and is the highest award achievable by a voluntary group.



DARLLENWCH FWY YMA

Newyddion - South Wales Guardian - 03.06.2021

In an exciting first for Carmarthenshire The Dryslwyn Community Shop and Post Office won The Queen’s Award for Voluntary Service.  This award is described as the MBE of Voluntary Service and is the highest award achievable by a voluntary group.




DARLLENWCH FWY YMA

Newyddion - Lifeseeker - 02.06.2021

In an exciting first for Carmarthenshire The Dryslwyn Community Shop and Post Office is incredibly proud to have won The Queen’s Award for Voluntary Service. This award is described as the MBE of Voluntary Service and is the highest award achievable by a voluntary group.



DARLLENWCH FWY YMA

Siop Gymunedol Dryslwyn yw enillydd Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol 2021 - 02.06.2021


Gan dorri tir newydd yn Sir Gâr, mae Siop Gymunedol a Swyddfa Bost Dryslwyn yn hynod falch o fod wedi ennill Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol. Caiff y wobr hon ei disgrifio fel MBE y Gwasanaeth Gwirfoddol a dyma’r wobr uchaf y gall grŵp gwirfoddol ei hennill.

 

Yn 2008 pan gaeodd 2,500 o swyddfeydd post roedd Dryslwyn ar y rhestr fel un ohonyn nhw.  Ond yn lle hynny, drwy ymdrechion rhyfeddol ar lawr gwlad, cafodd y Siop Gymunedol ei lansio, ac mae wedi gwasanaethu’r gymuned yn llwyddiannus byth ers hynny. Diolch i’r agwedd fentrus honno, llwyddodd y gwasanaeth hanfodol hwn barhau drwy gydol pandemig y coronafeirws, er gwaetha’r newidiadau radical roedd eu hangen.

 

“Mae’n anrhydedd enfawr, allwn ni ddim bod yn fwy balch,” meddai Helen Evans, cyn-filfeddyg lleol sy’n gweini wrth y cownter ac sy’n un o Gyfarwyddwyr y siop. “Mae cymaint ohonon ni yn y gymuned yn gwirfoddoli i’r siop, mae’n hyb cymunedol go iawn.  Mae pobl yn dod am fwy na’u siopa, mae’n rhywle i fod yn siŵr o gael wyneb cyfeillgar, sgwrs dda yn y Gymraeg neu’r Saesneg, a chefnogaeth gymdogol pan fydd ei hangen hi arnoch chi fwya.”

 

Dywedodd Nigel Jones, gwirfoddolwr yn y swyddfa bost a Chadeirydd tîm prosiect gafodd ei sefydlu i ddylunio a chyllido adeiladu siop newydd (SiopNEWydd) ar safle sydd 100 llath yn unig o’r siop bresennol: “Mae’r wobr yma’n newyddion gwych i bawb.   Mae’n cydnabod y rôI hanfodol sydd gan y siop yn ein cymuned ni, ac yn pwysleisio pwysigrwydd parhau i adeiladu ar y llwyddiant yma yn y dyfodol.”

 

Mae Siop Dryslwyn yn un o 241 o elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol i dderbyn y wobr fawreddog hon eleni. Bob blwyddyn caiff nifer sylweddol o enwebiadau eu derbyn, sy’n dangos pa mor egnïol mae’r sector wirfoddol yn cyfrannu at wella bywyd i bawb yn y gymuned.

 

Mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn cydnabod gwaith rhagorol gan grwpiau gwirfoddol er budd eu cymunedau lleol. Cafodd ei chreu yn 2002 i ddathlu Jiwbilî Aur y Frenhines a dyma’r MBE ar gyfer grwpiau gwirfoddol.  Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi bob blwyddyn ar 2 Mehefin, pen-blwydd Coroni’r Frenhines. Mae enillwyr y wobr eleni o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn cynnwys grwpiau gwirfoddol mor amrywiol â Siop Gymunedol Dryslwyn; gwasanaeth bws mini yng Nghymbria; gorsaf radio gymunedol yn Inverness; a thîm achub mynydd ym Mhowys.

 

Croesawodd y Cynghorydd Cefin Campbell y newyddion yn gynnes gan ddweud pa mor gadarnhaol mae hyn i Sir Gâr a’r ardal leol.  Dywedodd bod y wobr yn talu teyrnged i waith caled, gwydnwch ac ymroddiad eithriadol holl wirfoddolwyr Dryslwyn. Aeth yn ei flaen i ganmol uchelgais aelodau’r gymuned sydd bellach yn canolbwyntio ar ddylunio a chodi arian i adeiladu eu hadeilad eu hunain ar gyfer y SiopNEWydd.

 

Bydd Siop Dryslwyn yn derbyn tystysgrif a gwobr grisial gan Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Dyfed, yn ddiweddarach yr haf hwn.