Newyddion a Digwyddiadau - Yn yr adran hon fe welwch ddolenni i docynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag erthyglau newyddion perthnasol.
Ers ein bwletin diwethaf oedd yn rhoi gwybod am ein cais llwyddiannus am grant Perthyn, rydyn ni am eich hysbysu am ein gwaith ers hynny.
Roedd 3 maes i’r grant hwn:-
1.Gyda chymorth y Plunkett Foundation, cynhaliwyd asesiad cynhwysfawr o’r polisïau presennol, gan gynnwys amodau cyflogaeth, trefniadau iechyd a diogelwch, canllawiau i wirfoddolwyr a threfniadau a gweithdrefnau rheoleiddio eraill. Mae’r gwirfoddolwyr Michele a Mags wedi cynnal llawer o’r adolygiad hwn ac rydyn ni am ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion amhrisiadwy. Mae’n golygu y gallwn ni fod yn hyderus bod gennym ni lywodraethiant da ar waith bellach, a’n bod ni’n barod ar gyfer y siop newydd.
2. Rydyn ni’n agos bellach at gwblhau cynllun busnes strategol cynhwysfawr ar gyfer trosglwyddo i’r SiopNEWydd. Cafodd hwn ei baratoi’n annibynnol gan ymgynghorwyr busnes o gwmni Landsker yn San Clêr. Unwaith y bydd hwn wedi’i gwblhau bydd yn cael ei gynnwys fel elfen hanfodol ym mhob cais grant cyfalaf mawr rydyn ni eisoes yn paratoi i’w cyflwyno i ariannu’r datblygiad.
3. Roedd y trydydd maes cymorth o dan y grant hwn ar gyfer datblygu brandio a marchnata newydd i’r SiopNEWydd. Roedd hyn er mwyn adolygu a darparu templedi ar gyfer cynlluniau copi caled a digidol, gan gynnwys arwyddion a gwaith hyrwyddo. Yn anffodus, er gwaethaf ymdrech sylweddol, nid oeddem yn llwyddiannus wrth geisio dod o hyd i gwmni addas i ddarparu gwasanaeth dwyieithog o fewn y terfyn amser caeth oedd ar gael i wneud cais am yr elfen honno o’r cyllid. Fodd bynnag, os gall unrhyw un argymell cwmni dilys, byddem ni’n falch o’u hystyried yn y dyfodol.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod y cynnydd o bell yn ymddangos yn araf, ond gallwch chi fod yn hyderus bod llawer iawn o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod gennym ni’r dull mwyaf proffesiynol a chynhwysfawr posibl o ymdrin â cheisiadau grant a fydd yn ei dro yn rhoi’r cyfle gorau i ni gyflawni ein nodau.