Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau - Yn yr adran hon fe welwch ddolenni i docynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag erthyglau newyddion perthnasol.

SiopNEWydd - Caniatâd Cynllunio - 12.03.2023

Nawr, rwy’n gwerthfawrogi y bydd rhai ohonoch chi sy’n derbyn hwn yn gwirio’ch calendrau ar unwaith i sicrhau nad tric Ebrill 1af yw hwn, ond wedi mwy na 7 mis ers i’n cais cynllunio gael ei gyflwyno gyntaf, ac ar ôl cyflwyno llu o luniadau newydd a diweddariadau, mae caniatâd cynllunio llawn wedi’i roi ac mae modd gweld copi ar wefan gynllunio Cyngor Sir Gâr drwy glicio ar y ddolen hon: https://www.siopnewydd.com/home/planning-consent

 

Felly mae’n rhaid i ni ddathlu’r llwyddiant hwn a diolch i’n penseiri a nifer o ymgynghorwyr proffesiynol am eu gwaith caled yn y broses o sicrhau ein bod ni’n cyrraedd y pwynt hwn. Bydd rhestr lawn o’r rhain yn cael ei phostio ar ein gwefan cyn bo hir, a chaiff ei diweddaru dros amser. Mae sawl un wedi rhoi yn hael o’u hamser, a hynny’n rhad ac am ddim neu ar ostyngiad sylweddol, ac rydyn ni am gydnabod hyn a diolch iddyn nhw.    

 

Rydyn ni eisoes wedi cychwyn ar gam nesaf y prosiect, y cam anoddaf yn fwy na thebyg, sef gwneud ceisiadau am gyllid i godi swm sylweddol, drwy grantiau ac addunedau, i’n galluogi ni i allu ymrwymo i ‘brynu’r’ tir a symud ymlaen â’r datblygiad. Wrth lwc, mae tîm y prosiect yn cynnwys amrywiaeth dda o arbenigedd mewn materion o’r fath, er ein bod ni bob amser yn croesawu cynigion pellach o gymorth ac arbenigedd gan wirfoddolwyr.  E-bostiwch ni os gwelwch yn dda:  projectsiopnewydd@gmail.com  i roi gwybod i ni am ffyrdd y gallwch chithau hefyd gefnogi a sicrhau bod y SiopNEWydd yn dod yn realiti. 

 

Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ddatblygiadau wrth iddyn nhw ddigwydd, ond yn y cyfamser gadewch i ni ddathlu’r foment hon gan edrych ymlaen at gael mwy i’w ddathlu cyn bo hir!