Newyddion a Digwyddiadau - Yn yr adran hon fe welwch ddolenni i docynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag erthyglau newyddion perthnasol.

Gweithdy 3 - Yr Economi Leol 22.03.2021

Mae gweithdy nos Lun yn ymwneud â’r economi leol.

Byddwn ni’n sôn am wahanol ffyrdd o feddwl am y gair ‘economi’ a sut mae’n ymwneud â chynaliadwyedd, cymunedau gwledig a’r siop newydd. Rhaid i’r siop fod yn fodel busnes cynaliadwy ond pa systemau economaidd eraill a allai fod yn ddefnyddiol? Ystyriwch rannu, cyfnewid, economïau cylchol a mwy…

Dewch a siaradwch.

Mae croeso i bawb.

Peidiwch ag anghofio dod â ffrind.

Tîm Ymgysylltu â'r Gymuned yn ymweld â'r Siop     

Dewch i gwrdd ag Owen a Rhian yn y siop ar fore Sadwrn.

Dywedwch wrthym wyneb yn wyneb beth yr hoffech chi ei gael yn y SiopNEWydd.

Gweithgaredd creadigol ystyriol o deuluoedd sy’n archwilio anghenion eich cymuned a’r ffordd y gall y SiopNEWydd eu hateb.


POSTED 17.03.2021

Gweithdy Cynaliadwyedd 15.03.2021

Yn yr ail weithdy, sydd eto o dan arweiniad ein hymgynghorwyr Owen Griffiths a Rhian Jones, byddwn yn ystyried dyfodol y siop o safbwynt Cynaliadwyedd gan ddechrau gyda’r cwestiynau canlynol:

1. Beth mae’r gair ’cynaliadwy’ yn ei olygu i chi?

2. Sut gall y SiopNEWydd fod yn fodel o gynaliadwyedd?

Felly, dewch i’r gweithdy a dewch â’ch syniadau am Gynaliadwyedd a’r SiopNEWydd.  

Gweithdy Cymunedol 08.03.2021

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld y siop yn dod yn ganolfan gymunedol, wedi’i threfnu a’i staffio gan wirfoddolwyr i alluogi’r gwasanaeth gwledig pwysig hwn i barhau ac i ffynnu. Mae pennod newydd y siop bellach ar fin dechrau.  Yn 2023 byddwn yn gadael y safle presennol wrth i ni gychwyn ar brosiect adeiladu newydd, heb fod ymhell i lawr y ffordd. Bydd hwn yn adeilad newydd uchelgeisiol a’r gobaith yw y bydd yn llawer mwy na siop bentref, gan wasanaethu’r gymuned mewn sawl ffordd. Er mwyn i hyn weithio mae angen eich help, eich syniadau a’ch gweledigaeth arnom.

GWYLIWCH YMA - Cychwyn Ymgysylltu â'r Gymuned 

Diolch i chi os daethoch i gyfarfod lansio Cyfnod Ymgysylltu â'r Gymuned prosiect y SiopNEWydd.  

Diolch i Huw, Owen a Rhian a gyflwynodd gyflwyniadau diddorol tu hwnt.  Nawr mae'n amser i chi roi'ch mewnbwn ac annog pobl eraill yn y gymuned i ddweud eu dweud.

Wedi colli'r sesiwn? GWYLIWCH Y FIDEO YMA 


POSTED: 02.03.2021

Dewch i gwrdd â'r Penseiri

Bydd mis Mawrth yn fis prysur i brosiect y SiopNewydd!


Mawrth 1af 18.00 ar Zoom (dolen Eventbrite) – Cyfarfod Ymgynghori ar gyfer y Gymuned gyda chyflwyniad gan y Penseiri ac Ymgynghorwyr.  Yn ystod mis Mawrth 2021:

YN Y CNAWD – bydd yr Ymgynghorwyr yn ymweld yn bersonol â’r Siop ac yn gosod ystod o gwestiynau ar fwrdd du yn y Siop lle y gallwch ateb ar gardiau a’u gosod yn y blwch syniadau.


AR-LEIN – byddwch yn gweld y cwestiynau hyn ar Facebook gyda dolenni i wefan newydd er mwyn i chi ateb cwestiynau ar-lein. Dyma’ch cyfle CHI i gael dweud EICH dweud ac mae’ch barn CHI yn hynod bwysig i Dîm y Prosiect ac i lwyddiant cyffredinol y prosiect. Felly cymerwch ran, DA CHI!


POSTED: 01.03.2021