Newyddion a Digwyddiadau

DIWEDDARAF

Newyddion a Digwyddiadau - Yn yr adran hon fe welwch ddolenni i docynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag erthyglau newyddion perthnasol.

Canfyddiadau Ymgygysylltu â'r Gymuned - 12.04.2021

Mae Owen a Rhian, Ways of Working, wedi casglu'ch holl syniadau yn ystod mis o ymgynghori a byddan nhw'n cyflwyno'r canfyddiadau yn y digwyddiad Zoom olaf hwn.

Dyma beth sy'n mynd i lywio'r cam dylunio nesaf, felly dewch i sicrhau bod eich syniad chi yno ac nad ydyn ni wedi anghofio unrhyw beth!

TOCYNNAU YMA - https://www.eventbrite.co.uk/e/148948036587

Roedd mis Mawrth yn gyfnod o ymgynghori dwys i ddarganfod gan y gymuned beth yw’ch barn chi am y siop er mwyn helpu siapio dyluniad a chyfleusterau ein siop a Swyddfa Bost newydd. 

Yn ystod y mis o ymgynghori, mae Owen a Rhian, Ways of Working, wedi casglu’ch syniadau drwy ddefnyddio cardiau cwestiynau, taflen waith a gweithdai Zoom wythnosol. Byddan nhw’n cyflwyno’u canfyddiadau yn y digwyddiad Zoom olaf hwn.

Dyma beth sy’n mynd i lywio’r cam dylunio felly dewch i sicrhau bod eich syniad chi yno ac nad ydyn ni wedi colli unrhyw beth!

Mae manylion am bopeth sy’n ymwneud â’r prosiect, gan gynnwys fideos o ddigwyddiad ‘Dewch i Gwrdd â’r Penseiri’ Dydd Gŵyl Dewi, ac allbwn y Gweithdai, i’w gweld ar wefan ein prosiect ar www.siopnewydd.com

Yn anffodus, oherwydd rheoliadau Covid bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn rhithiol ar-lein drwy gyfrwng Zoom, ond bydd manylion yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod am rai digwyddiadau wyneb yn wyneb sydd i’w cynnal yn y siop yn ystod yr wythnosau nesaf.

Felly, defnyddiwch y ddolen isod, os gwelwch yn dda, a fydd yn eich anfon i safle ‘Eventbrite’ lle bydd angen i chi gofrestru i gael tocyn i’r digwyddiad.  Dilynwch y cyfarwyddiadau a byddwch yn derbyn tocyn drwy e-bost lle bydd dolen a ddaw’n weithredol ychydig cyn 6pm ar ddydd Llun y 12fed. Byddwch chi hefyd yn derbyn e-byst i’ch atgoffa cyn y digwyddiad, gyda’r un olaf tua 5-10 munud cyn i’r digwyddiad ddechrau er mwyn rhoi mynediad i chi drwy fideo gyda Zoom.  Os nad ydych chi wedi defnyddio Zoom o’r blaen, peidiwch â phoeni mae’n eithaf di-boen, ond byddwch yn barod mewn da bryd rhag ofn i chi gael unrhyw broblemau.