Rydym yn falch o gyflwyno yma gyfres o gynlluniau a delweddau cyfrifiadurol ar gyfer dyluniad y SiopNEWydd a gymeradwywyd gan gyfarwyddwyr y siop ym mis Mai.
Bydd hwn yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo gan Gyngor Sir Gâr tua diwedd mis Gorffennaf. Mae gwybodaeth angenrheidiol fel datganiad mynediad a dylunio ynghyd ag adroddiadau proffesiynol allweddol yn cael eu paratoi gan ein pensaer. Bydd yr holl ddogfennau hyn ar gael yn y pen draw i’r cyhoedd graffu arnynt ar borth cynllunio Cyngor Sir Gâr.
Fel y dangosir isod, mae’r dyluniad ar gyfer datblygiad mewn dau gam. I gychwyn, mae Cam 1 yn darparu siop a swyddfa bost newydd gyda chyfleuster corlan de fach ac ardal awyr agored wedi’i gorchuddio. Bydd Cam 2 yn ehangu hyn, gan gynnwys caffi â seddi a byrddau dan do, pryd bynnag y byddwn yn barod i wneud hynny.
Mae’r cyfarwyddwyr wedi mabwysiadu’r dull pwyllog hwn am sawl rheswm. Yn gyntaf, er mwyn sicrhau bod niferoedd ein gwirfoddolwyr a’n busnes yn ddigon llwyddiannus a chadarn i gynnal y siop newydd cyn ychwanegu cyfrifoldeb am fenter caffi newydd. Mae ein hanes o redeg y siop a’r swyddfa bost yn gryf, ond ni allwn hyd yma ddangos yr un peth o ran caffi. Credwn, yn arbennig o ystyried yr amgylchiadau economaidd presennol, y byddai cyllidwyr yn wyliadwrus ohonom yn gwneud gormod ar unwaith, ond y byddent yn gadarnhaol ynghylch mabwysiadu dull pwyllog.
Mae cais cynllunio ar gyfer cyfuniad o’r ddau gam yn dangos ein bwriadau ar gyfer y dyfodol, yn profi ein dull synhwyrol o weithredu, ac yn sicrhau sêl bendith ar gyfer y cyfan heb fod angen unrhyw ganiatâd cynllunio pellach.
Dangosodd ein hymgynghoriad â’r gymuned yn glir mai’r siop a’r swyddfa bost yw’r blaenoriaethau uchaf, a bod caffi yn rhywbeth hynod ddymunol. Felly, mae’r dyluniad hwn yn ceisio sicrhau uchelgeisiau’r gymuned.
Mae’r cynllun yn benllanw llawer o waith gan bawb. Mae’n adlewyrchu ein hymgynghoriad eang â’r gymuned a gynhaliwyd gan Ways of Working ac a ddatblygwyd gan ein pensaer dewisol Huw Griffiths Associates (HGA) a weithiodd yn agos gyda thîm a chyfarwyddwyr y prosiect.
Roedd cynllunio’r adeilad yn cynnwys rhoi ystyriaeth ofalus i lawer o ffactorau. Roedd y broses yn cynnwys HGA, tîm a chyfarwyddwyr y prosiect yn ogystal â chyflwyniadau, ymgynghori pellach ac adborth gan y gymuned. Gwnaeth ddefnydd hefyd o gyngor proffeisynol gan gynnwys hydroleg, peirianneg fecanyddol a strwythurol, syrfëwr meintiau (am gost), ecoleg, cynllunio, priffyrdd, ac ysytyriaethau ynghylch cyllid posibl. Mae hyn wedi gofyn am waith a thrafodaeth ddwys, gan gynnwys addasu, mirienio a chyfaddawdu sylweddol. Diolch i bawb am eu cyfraniadau.
Yn gyffredinol, mae’r cynllun terfynol hwn yn cyflawni’r canlynol:
Mae cynaliadwyedd wrth galon y dyluniad, mae’n ymgorffori lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni, cynhyrchu ynni solar, system awyru ‘stac’ naturiol, a bydd yn defnyddio cyfran uchel o ddeunyddiau adnewyddadwy
Mae’n cwrdd â’r gofynion llym sydd eu hangen i gael caniatâd cynllunio a bodloni rheoliadau adeiladu
Mae’n cynnwys ardaloedd eang sydd wedi’u gorchuddio, a darpariaeth parcio diogel hanfodol
Bydd yn gost-effeithiol i’w gynnal a’i weithredu
Mae’n addas i’r diben a’r swyddogaeth ynghyd â bod yn hyblyg ac yn addasadwy – nawr ac i’r dyfodol
Ei nod yw bod yn gaffaeliad newydd croesawgar a llwyddiannus i’r gymuned
Cyflwynir yma y cynllun dylunio dau gam y cytunodd y cyfarwyddwyr ei gyflwyno fel ein cais cynllunio. Mae’r cynllun cyfan wedi’i gynllunio i sicrhau caniatâd ar gyfer camau 1 a 2 gyda’i gilydd, i’w hadeiladu’n olynol.
I gychwyn bydd adeilad Cam 1 yn cynnwys corlan de fach. Bydd Cam 2 yn ehangu i ddarparu caffi. Fel hyn gallwn sicrhau bod cynnydd yn cyd-fynd â’n hadnoddau gan sefydlu a sicrhau pob cam o’r busnes yn effeithiol.
Lleoliad y Safle
Cynllun Safle Arfaethedig Cyffredinol
Noder: I ehangu’r ddelwedd, cliciwch ar y saeth ar ochr dde uchaf pob delwedd i’w hagor mewn ffenestr newydd
Mae hwn yn dangos hyd a lled ac uchelgais y cynllun yn gyffredinol. Mae’n cynnwys y siop, swyddfa bost, caffi, ac ardal eistedd.
Cyflwynir yma ddetholiad o luniadau dylunio gan gynnwys cynllun y safle, cynlluniau llawr mewnol, cymariaethau arwynebedd llawr, gweddluniau’r adeilad, a nifer o ddelweddau cyfrifiadurol.
NODER: mae’r golygon cyfrifiadurol yn ddangosol yn unig ac mae’n anochel eu bod yn edrych yn artiffisial iawn. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud hyd yn hyn ynghylch arddulliau’r tu mewn neu’r tu allan, y mathau o orffeniadau, y lliwiau, na manylion y ffitiadau a’r gosodiadau. Bydd digon o gyfle i ymgynghori ymhellach â’r gymuned ac i gyfrannu a thrafod yr agweddau hynny. Felly hefyd fanylion ynghylch cynlluniau plannu a’r math o arwynebau y tu allan i’r adeilad.
Noder: I ehangu’r ddelwedd, cliciwch ar y saeth ar ochr dde uchaf pob delwedd i’w hagor mewn ffenestr newydd.
Golwg allanol - Noder bod y golygon a ddangosir fel llythrennau a’u cyfeiriad yn cyfateb i’r delweddau cyfrifadurol mewnol
Noder bod y golygon a ddangosir fel llythrennau ac mae eu cyfeiriad yn cyfateb i’r delweddau cyfrifadurol mewnol
Cynllun Mewnol, Cais Cynllunio Llawn gyda Siop Goffi
Gweddluniau, Cais Cynllunio Llawn, gyda Siop Goffi
A a B Allanol, Cais Cynllunio Llawn, gyda Siop Goffi
C a D Allanol, Cais Cynllunio Llawn, gyda Siop Goffi
E a F Allanol, Cais Cynllunio Llawn, gyda Siop Goffi
A a B Mewnol, Cais Cynllunio Llawn, gyda Siop Goffi
C a D Mewnol, Cais Cynllunio Llawn, gyda Siop Goffi
E a F Mewnol, Cais Cynllunio Llawn, gyda Siop Goffi
Prif ffocws hwn yw’r siop a’r swyddfa bost ac mae wedi’i gynllunio i sicrhau cynaliadwyedd costau adeiladu a rhedeg. Mae’n cynnwys cyfleuster corlan de fach ac mae ganddo ardal awyr agored fawr wedi’i gorchuddio ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau yn ogystal ag ar gyfer ehangu a datblygu yn y dyfodol.
Cyflwynir yma ddetholiad o luniadau dylunio gan gynnwys cynllun y safle, cynlluniau llawr mewnol, cymariaethau arwynebedd llawr, gweddluniau’r adeilad, a nifer o ddelweddau cyfrifiadurol.
NODER: mae’r golygon cyfrifiadurol yn ddangosol yn unig ac mae’n anochel eu bod yn edrych yn artiffisial iawn. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud hyd yn hyn ynghylch arddulliau’r tu mewn neu’r tu allan, y mathau o orffeniadau, y lliwiau, na manylion y ffitiadau a’r gosodiadau. Bydd digon o gyfle i ymgynghori ymhellach â’r gymuned ac i gyfrannu a thrafod yr agweddau hynny. Felly hefyd fanylion ynghylch cynlluniau plannu a’r math o arwynebau y tu allan i’r adeilad.
Noder: I ehangu’r ddelwedd, cliciwch ar y saeth ar ochr dde uchaf pob delwedd i’w hagor mewn ffenestr newydd.
Cynllun llawr a Gofodlen yr Ardaloedd, Adeilad Cam 1, gyda Chorlan De
Cynllun Mewnol, Adeilad Cam 1, gyda Chorlan De
Gweddluniau, Adeilad Cam 1, gyda Chorlan De
A a B Allanol, Adeilad Cam 1, gyda Chorlan De
E a F Allanol, Adeilad Cam 1, gyda Chorlan De
C a D Allanol, Adeilad Cam 1, gyda Chorlan De
A a B Mewnol, Adeilad Cam 1, gyda Chorlan De
C a D Mewnol, AdeiladCam 1, gyda Chorlan De
E a F Mewnol, Adeilad Cam 1, gyda Chorlan De
Dyma gynlluniau a gofodlen yr ardaloedd ochr yn ochr â’i gilydd er mwyn hwyluso’r broses gymharu. Mae hyn yn dangos sut mae’r cais cynllunio llawn gyda siop goffi yn cymharu ag adeilad Cam 1 gyda’r gorlan de.
Cymharu’r cais llawn gyda Siop Goffi â Cham 1