Newyddion a Digwyddiadau - Yn yr adran hon fe welwch ddolenni i docynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag erthyglau newyddion perthnasol.
Diolch i bawb a ymatebodd i’r broses o gyflwyno adborth ar y dyluniad ym mis Rhagfyr. Cafodd yr holl gyfraniadau groeso mawr gan y Cyfarwyddwyr.
Cafodd yr holl sylwadau a dderbyniwyd gennych eu coladu a’u cyflwyno i gyfarwyddwyr y siop i’w hystyried. O’r safbwyntiau amrywiol, a oedd yn aml yn wrthgyferbyniol, mae’r cyfarwyddwyr wedi rhoi cyfarwyddiadau clir i ni weithio arnyn nhw gyda’r penseiri. Cafodd y rhain eu ffurfio o’ch sylwadau chi ar bob agwedd ar y prosiect, gan gynnwys y dyluniad, y cynlllun, y gyllideb a’r cynlluniau busnes yn ogystal ag uchelgais y prosiect.
Rydym ni eisoes wedi cael cyfarfod cadarnhaol iawn gyda’r penseiri i drosglwyddo’r cyfarwyddiadau hyn ac rydym bellach yn aros am adolygiad o’r lluniadau i weithio arnyn nhw. Cyn gynted ag y bydd gennym rywbeth i’w ddangos, neu i adrodd amdano, i’r gymuned, byddwn ni’n gwneud hynny. Rydym ni i gyd yn teimlo’n rhwystredig bod y broses yn cymryd yn hirach na’r disgwyl i gyrraedd y pwynt hwn, yn bennaf oherwydd cyfyngiadau Covid ac ati. Serch hynny, mae’r allwedd i lwyddiant o ran sicrhau caniatâd cynllunio, ennill cyllid, a chael siop newydd gynaliadwy yn dibynnu ar ba mor drylwyr ydym ni o ran sicrhau dyluniad effeithiol.
Diolch i bawb a roddodd o’u hamser i gyflwyno’u sylwadau i ni mewn ffordd mor ystyriol a defnyddiol. Mae hynny’n wych a dyna’n union roeddem am ei gael!
Fel y rhagwelwyd, cawsom amrywiaeth eang o ymatebion a safbwyntiau. Ar hyn o bryd rydym yn crynhoi’r rhain mewn ffurf addas i’w rhannu â’r penseiri, fel y gallant ymateb gydag unrhyw newidiadau dylunio, a’u rhannu gyda chyfarwyddwyr y siop y bydd eu penderfyniadau yn y pen draw yn pennu ein dull gweithredu.
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi ynghylch hynt y siop a’r ffordd ymlaen.
Diolch i chi unwaith eto am eich cefnogaeth.