Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau - Yn yr adran hon fe welwch ddolenni i docynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag erthyglau newyddion perthnasol.

Llwyddiant Grant Y SiopNEWydd - 09.05.2023

Rwy’n ysgrifennu atoch i ddweud wrthych ein bod ni wedi ennill ein grant ariannu cyntaf – gwobr fach o £11,300 gan Perthyn.  Er nad yw’r arian hwn yn uniongyrchol ar gyfer gwaith adeiladu’r siop newydd, yr hyn sydd o’r PWYS MWYAF yw ei fod yn arwydd o’n hygrededd o ran codi arian, a’r UN MOR ARWYDDOCAOL yw’r ffaith ei fod yn ariannu elfennau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau llwyddiant ein ceisiadau mwy.  

 

Mae grantiau Perthyn wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer elfennau camau cynnar gwaith mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.  Yn yr achos hwn, mae’r grant yn darparu 3 elfen ariannu i ni eu defnyddio:

 

(1)  Cynghorwyr i archwilio ein holl bolisïau a’n gweithdrefnau gweithredol presennol

(2)  Ymgynghorwyr proffesiynol i lunio cynllun busnes cynhwysfawr ar gyfer y siop newydd

(3)  Cwmni dylunio i ddatblygu brandio, arwyddion dwyieithog ac ati ar gyfer y siop newydd 

 [Byddwn yn ceisio barn y gymuned ar yr elfen hon wrth i’r gwaith fynd rhagddo] 

 

Mae’r gwaith gan y gweithwyr proffesiynol hyn eisoes wedi dechrau ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin.  Felly mae cryn dipyn o waith yn digwydd er mwyn cyflawni hyn.

 

Diolch i Rosie Plummer am ei pharodrwydd a’i gwaith anhygoel o ddiwyd wrth wneud ceisiadau o fewn amserlen eithriadol o gyfyng a sicrhau’r llwyddiant hwn, a hynny yn ogystal â pharhau i baratoi ceisiadau llawer mwy sydd ar y gweill.  

 

Mae’r llwyddiant cynnar hwn ar ôl cael caniatâd cynllunio yn cynnig gobaith a hyder sylweddol ar gyfer ceisiadau am grantiau yn y dyfodol. Mae’n hwb mawr i’n hyder a (rhag ofn bod rhywrai’n amau hynny) mae’n dangos y gallwn ni fod yn llwyddiannus ac y byddwn ni’n llwyddiannus yn y broses ariannu!