Newyddion a Digwyddiadau - Yn yr adran hon fe welwch ddolenni i docynnau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag erthyglau newyddion perthnasol.
Yn dilyn llawer o waith gan bawb, ymgynghori a thrafod eang, a chryn dipyn o addasu a mireinio opsiynau dylunio, rydym yn falch o gadarnhau bod y cyfarwyddwyr wedi cytuno ar y cynllun i’w gyflwyno fel ein cais cynllunio. Credwn fod y cynllun yn arloesol nid yn unig o ran ei ddyluniad cyfoes ond hefyd o ran ei gynaliadwyedd yn ogystal â’i ddarpariaeth ar gyfer ehangu yn y dyfodol tra’n cadw’r prif ffocws ar y siop a’r Swyddfa Bost. Mae mannau eang dan do hefyd ar gyfer eistedd y tu allan i’r wedd ddeheuol a darpariaeth parcio diogel hanfodol.
I grynhoi unwaith eto: Datblygodd Huw Griffiths Associates (HGA), ein pensaer dewisol, ddau ddyluniad amlinellol ar ein cyfer. Cafodd y rhain eu llywio gan y digwyddiadau ymgynghori cymunedol eang a gynhaliwyd y llynedd gan Ways of Working. Cyflwynwyd y ddau ddyluniad hyn gennym ar gyfer ymgynghori â’r gymuned drwy gydol mis Rhagfyr, a chasglwyd adborth amrywiol a defnyddiol drwy’r broses honno.
Ar yr un pryd, rydym wedi casglu’r cyngor proffesiynol angenrheidiol, gan gynnwys hydroleg, peirianneg fecanyddol a strwythurol, syrfëwr meintiau (am gost), ecoleg, cynllunio, priffyrdd, a chyllido posibl. Gan gymryd yr holl ffactorau hyn at ei gilydd, mae cyfarwyddwyr ac aelodau tîm y prosiect wedi gweithio gyda HGA i ddatblygu’r cynllun terfynol.
Yn bwysicaf oll, mae’r dyluniad hwn yn cyflawni’r canlynol:
Mae cynaliadwyedd wrth galon y dyluniad, mae’n ymgorffori lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni, cynhyrchu ynni solar, system awyru ‘stac’ naturiol, a bydd yn defnyddio cyfran uchel o ddeunyddiau adnewyddadwy
Mae’n cwrdd â’r gofynion llym sydd eu hangen i gael caniatâd cynllunio a bodloni rheoliadau adeiladu
Bydd yn gost-effeithiol i’w gynnal a’i weithredu
Mae’n addas i’r diben a’r swyddogaeth ynghyd â bod yn hyblyg ac yn addasadwy – nawr ac i’r dyfodol
Mae ganddo le i gael mewnbwn pellach gan y gymuned e.e. ynghylch gorffeniadau, lliwiau, a llawer o’r manylion
Ei nod yw bod yn gaffaeliad newydd croesawgar a llwyddiannus i’r gymuned
Rydym yn siŵr bod pawb yn awyddus i weld y canlyniad! Felly rydym yn trefnu cyfres o gyfleoedd i chi ei weld. Mae’r rhain yn cynnwys:
Gwneud y lluniadau dylunio gan gynnwys cynllun y safle, y cynllun mewnol, y gweddluniau, ynghyd ag ambell olwg drwy efelychiad cyfrifiadurol, ar gael nawr drwy’r ddolen hon i wefan y SiopNEWydd.
Cynnal digwyddiad ‘Holi’r Pensaer’ yn rhithiol lle bydd HGA yn cyflwyno ac yn esbonio’r gwahanol agweddau ar y dyluniad, yr hyn sydd wedi pennu ei raddfa a’i siâp, ac yn ateb unrhyw gwestiynau gan y gymuned.
Cynnal sesiwn ‘galw heibio’ yn y siop ar ddydd Sadwrn 11 Mehefin er mwyn i chi weld copïau mwy o’r cynlluniau a thrafod sut mae’r dyluniad wedi esblygu a’r hyn fydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer caniatâd cynllunio.
Byddwn yn cysylltu â chi ymhellach ynglŷn â dyddiadau a manylion y digwyddiadau hyn, ac edrychwn ymlaen at eich gweld ac at gael eich cefnogaeth ar gyfer camau nesaf y prosiect!
Mae gwaith i’w wneud o hyd ar y cais cynllunio, felly bydd hyn yn parhau yn y cefndir dros yr wythnosau nesaf.